Gŵyl Glastonbury yng Ngwlad yr Haf (Llun: Steve Mack Smith)
Mae dyn wedi marw yng Ngŵyl Glastonbury ar ôl dioddef llosgiadau difrifol.

Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod wedi eu galw i safle’r ŵyl tua 5.20yp ddydd Llun yn dilyn adroddiadau bod dyn ar dân.

Roedd y dyn, y credir oedd yn ei 20au, wedi cael llosgiadau difrifol a chafodd ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Southmead ym Mryste.

Dywedodd llefarydd ei fod wedi cael ei drosglwyddo i Ysbyty’r Frenhines Elizabeth ym Mirmingham lle bu farw.

Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod, meddai.

Ychwanegodd bod eu hymchwiliadau yn parhau ond eu bod yn trin ei farwolaeth fel un anesboniadwy ac nad ydyn nhw’n credu ei fod yn amheus.

Mae’r ŵyl yn agor i’r cyhoedd ddydd Mercher ac yn dechrau ddydd Gwener gyda Muse, Adele a Coldplay yn perfformio.