Mae dyn wedi’i gyhuddo o lofruddio mewn cysylltiad â marwolaeth yr Aelod Seneddol Llafur, Jo Cox.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Gorllewin Swydd Efrog fod Thomas Mair, o Birstall, wedi’i gyhuddo o lofruddio, achosi niwed corfforol difrifol, bod â gwn yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi trosedd, ac hefyd o fod ag arf peryglus yn ei feddiant.

Mae disgwyl i’r dyn 52 oed ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw.

Bu farw Jo Cox, 41, yn dilyn ymosodiad yn y stryd y tu allan i swyddfa’i hetholaeth yn Birstall ger Leeds, amser cinio dydd Iau.

Mae dyn 77 mlwydd oed yn parhau mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty, wedi iddo geisio rhwystro’r ymosodiad ar yr Aelod Seneddol.