Jo Cox - difrifol wael (Yui Mok/PA)
Mae’r Aelod Seneddol Jo Cox yn ddifrifol wael yn yr ysbyty ar ôl cael ei saethu yn y stryd.
Mae dyn 52 oed wedi cael ei arestio wedi’r digwyddiad yn Birstall ger Leeds, yng Ngorllewin Swydd Efrog.
Yn ôl llygad-dystion, roedd dyn mewn cap baseball gwyn wedi ymosod ar yr AS 41 oed y tu allan i lyfrgell lle’r oedd yn cynnal cymorthfa.
Pan geisiodd dyn arall ymyrryd, fe estynnodd yr ymosodwr am wn a’i saethu ddwywaith.
Mae Jo Cox yn fam i ddau o blant ac yn aelod seneddol Llafur tros Batley a Spen ers 2015.
Does dim esboniad hyd yn hyn am yr ymosodiad.