Brenhines Lloegr
Yn ôl un o’i hwyrion, yr anrheg orau gallai’r Frenhines gael ar ei phen-blwydd fyddai “diwrnod bant er mwyn iddi allu gorwedd o gwmpas a gwneud dim”.

Roedd y Tywysog Harry yn siarad â gwesteion mewn derbyniad yn Guildhall Llundain i nodi pen-blwydd ei fam-gu yn 90 oed.

Yn ôl Harry, dylai’r Frenhines Elizabeth fod yn “rhoi ei thraed lan” ond nad oedd hi am golli’r cwrdd diolchgarwch i’r cyhoedd yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul.