Mae galwadau heddiw i ymestyn y dyddiad cofrestru ar gyfer pleidleisio yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, yn dilyn problemau technegol â’r wefan gofrestru ddydd Mawrth.

7 Mehefin oedd y dyddiad cau dros gofrestru i bleidleisio yn y refferendwm ar 23 Mehefin ond mae pryder bod llawer heb gael cyfle i gofrestru.

Roedd 50,000 o bobol yn ceisio cofrestru ar y wefan neithiwr am 10:15yh, a’r gred yw bod hynny wedi achosi problemau i’r wefan.

Roedd 26,000 o bobol yn defnyddio’r wefan bum munud cyn i’r cyfnod cofrestru ddod i ben am hanner nos, gyda dros 20,000 yn dal ar y dudalen gofrestru am 12:01 fore dydd Mercher, 8 Mehefin.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi ymddiheuriad ar-lein i’r sawl oedd wedi cael problemau.

Ond mae Aelodau Seneddol, gan gynnwys arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, wedi galw am ymestyn y dyddiad cofrestru am ddiwrnod ychwanegol.

Dywedodd y Comisiwn Etholiadol ei fod yn ymwybodol o’r broblem ond bod y dyddiad cau wedi cael ei osod mewn deddfwriaeth gan y Senedd.

“Ergyd fawr” i’r bleidlais dros aros

Ychwanegodd Tim Farron fod y sefyllfa’n “ergyd fawr” i’r ymgyrch dros aros yn Ewrop, gan fod yr ochr honno yn dibynnu cymaint ar bleidlais y bobol ifanc.

“Gyda chofrestru unigol, ac ymgyrch mawr i annog pobol ifanc i bleidleisio, a llawer ohonyn nhw wedi ceisio gwneud hynny ar y funud olaf, gall hyn gael oblygiadau difrifol i’r canlyniad,” meddai.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod y mwyafrif llethol o bobol ifanc o blaid Ewrop, ac os ydyn nhw’n cael eu difreinio, gallai gostio ein lle yn Ewrop.”

“Dylai pleidleiswyr gael diwrnod ychwanegol tra bod y llanast hwn yn cael ei ddatrys ar frys.”

Roedd tua 132,000 o’r bobol a gofrestrodd ddydd Mawrth o dan 25 oed, o’i gymharu â thua 13,000 o bobol rhwng 65 a 74 oed.