Dyfodol y diwydiant yn hollti barn
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron a chyn-Faer Llundain, Boris Johnson wedi bod yn dadlau ynghylch effaith yr Undeb Ewropeaidd ar y diwydiant pysgota yng ngwledydd Prydain.

Ar raglen Countryfile y BBC, roedd Johnson wedi dadlau y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi pysgotwyr i fod yn rhydd rhag rheolau “gwallgof”.

Ond dywedodd Cameron fod gwaith wedi cael ei wneud eisoes yn San Steffan i addasu polisïau pysgodfeydd.

Dywedodd Johnson fod y diwydiant wedi wynebu “trasiedi” wrth i’r diwydiant haneru mewn maint.

“Edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd i’n trefi arfordirol, mae yna ardaloedd lle gwelwch chi ormod o dlodi mewn rhai achosion. Byddai dod â’r diwydiant pysgota yn ôl i’r ardaloedd hynny’n wych.

“Mae rhai o’r rheolau, gan gynnwys taflu pysgod digon da yn ôl er mwyn rheoli’r cwota… dewch o ’na, mae’n rhaid bod hynny’n wallgof…”

Ond dywedodd Cameron fod y diwydiant pysgota wedi gwella ers iddo fod yn Brif Weinidog.