Mae athrawes sydd wedi mynd â chwmni cyhoeddi papur tabloid i’r llys wedi i fanylion am ei pherthynas gyda “phel-droediwr Uwch Gynghrair llwyddiannus” gael eu cyhoeddi, wedi ennill £20,000 mewn iawndal gan gwmni MGN.

Mae hi hefyd wedi sicrhau y bydd y cwmni, sy’n berchen ar The Sunday People, yn talu ei chostau cyfreithiol o £84,000.

Roedd yr athrawes wedi penderfynu mynd â’r cwmni i gyfraith wedi i newyddiadurwr o bapur The Sunday People gysylltu â hi yn fuan wedi iddi golli ei ffôn symudol.

Roedd newyddiadurwyr, hwythau, wedi cael galwad gan ffynhonnell oedd yn honni gwybod lle’r oedd y teclyn a oedd yn cynnwys negeseuon oedd yn tystio i’r berthynas â’r pêl-droediwr.

Mae’r athrawes yn dweud fod “yr holl ddata” ar ei ffôn wedi’i dileu cyn iddi gael y teclyn yn ôl – ac mae wedi hawlio’n llwyddiannus iawndal gan gwmni MGN am hynny. Mae rheolwyr y cwmni wedi cytuno i dalu £20,000 iddi, ac i dalu ei chostau cyfreithiol.