Y £5 newydd, Llun: Joe Giddens/PA Wire
Mae papur £5 plastig cyntaf Prydain, sy’n dangos llun o Syr Winston Churchill, wedi cael ei ddadorchuddio gan lywodraethwr Banc Lloegr.

Wrth lansio’r £5 newydd bu Mark Carney yn rhoi teyrnged i’r cyn-Brif Weinidog a’i tan yn hanes Prydain.

Dywedodd fod “arian yn atgof i wlad a’i phobl” ac oherwydd hynny roedd yn briodol eu bod yn dangos ffigurau hanesyddol fel Churchill.

Fe fydd y £5 newydd yn cael ei ddefnyddio o fis Medi ac mae wedi’i wneud o ddeunydd polymer, sy’n cael ei ystyried yn fwy diogel.

Mae ychydig yn llai na’r papur £5 cyfredol, a gellir ei lanhau ac nid oes modd ei rwygo.

Cafodd y £5 newydd ei ddadorchuddio ym Mhalas Blenheim yn Swydd Rhydychen lle cafodd Syr Winston Churchill ei eni yn 1874.

Mae’r £5 cyfredol yn dangos Elizabeth Fry ac roedd y cyhoeddiad yn 2013 mai Churchill fyddai’n cymryd lle Fry wedi ennyn beirniadaeth lem oherwydd byddai’n golygu mai’r Frenhines fyddai’r unig ferch ar bapurau Banc Lloegr.

Fe arweiniodd hyn at ymgyrch gyhoeddus i geisio sicrhau mai merch fyddai wyneb newydd y papur £10 ac fe gyhoeddwyd yn ddiweddarach mai Jane Austen fyddai’n ymddangos ar yr arian o 2017.