Llun: Stefan Rousseau/PA
Daeth cadarnhad heddiw fod siopau cadwyn BHS yn cau wedi i’r gweinyddwyr fethu a dod o hyd i brynwr.

Mae hyn yn golygu y bydd 11,000 o swyddi’n cael eu colli, a 163 siop ar hyd a lled y wlad yn cau.

Dywedodd y gweinyddwr, Duff & Phelps, fod y 8,000 o swyddi parhaol yn debygol  o gael eu colli, a’r 3,000 arall nad oedd yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan BHS mewn perygl hefyd.

Mae gan y cwmni saith siop yng Nghymru gan gynnwys Casnewydd, Caerdydd, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin, Wrecsam a Llandudno.

Daw’r newyddion wedi i’r cynnig i’w achub gan gonsortiwm sy’n cael ei arwain gan Gregg Tufnell, cyn-bennaeth Mothercare fethu heddiw.

“Er bod nifer o gynigion wedi’u derbyn, doedd yr un wedi llwyddo i gwblhau’r cytundeb oherwydd y cyfalaf gweithio oedd ei angen i sicrhau dyfodol y cwmni. ”

Dywedodd cyn-berchennog BHS Syr Philip Green ei fod wedi “tristau ac yn siomedig” yn sgil methiant y cwmni gan ychwanegu ei fod wedi gobeithio y gallai’r busnes gael ei werthu.