Lun: Clive Gee/PA Wire
Fe allai tynged BHS ac 11,000 o’i staff gael ei benderfynu heddiw wrth i’r gweinyddwyr ddirwyn y broses o geisio dod o hyd i brynwr i ben.

Mae’n debyg bod Duff & Phelps yn ceisio dod i gytundeb gyda chonsortiwm sy’n cael ei arwain gan Gregg Tufnell, cyn-bennaeth Mothercare.

Mae’r consortiwm hefyd yn cynnwys y bancwr Nick de Scossa a Jose Maria Soares Bento ac maen nhw wedi cofrestru cwmni newydd, Richess Group Limited.

Ond mae ffynonellau wedi rhybuddio y gallai’r cytundeb fethu, a fyddai’n golygu bod y busnes yn dod i ben.

Cafodd BHS ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr ym mis Ebrill gan adael diffyg o £571 miliwn yng nghronfa bensiwn y cwmni ac fe arweiniodd at ymchwiliad gan Aelodau Seneddol.

Mae disgwyl i ASau holi’r biliwnydd Syr Philip Green, a oedd yn berchen ar BHS am 15 mlynedd, a Dominic Chappell, a brynodd y cwmni oddi wrtho am £1, yn ystod yr wythnosau nesaf.