Mae David Cameron a Nicola Sturgeon wedi ymuno a theuluoedd y rhai fu’n brwydro ym Mrwydr Jutland ar gyfer gwasanaeth coffa i nodi 100 mlynedd ers y frwydr forol fwyaf yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe fu farw miloedd o filwyr yn y frwydr 36 awr rhwng llongau Prydain a’r Almaen oddi ar arfordir Denmarc.

Roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi ymuno a Phrif Weinidog yr Alban,, Nicola Sturgeon yng Nghadeirlan St Magnus yn Ynysoedd Erch ar gyfer y gwasanaeth.

Roedd Arlywydd yr Almaen Joachim Gauck hefyd yn bresennol.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Ynysoedd Erch oherwydd cysylltiadau’r ardal gyda’r frwydr oherwydd safle’r llynges yn Scapa Flow.

Bu farw 6,094 o filwyr Prydain yn y frwydr, a 2,551 o filwyr yr Almaen.