(llun: PA)
Mae dau ddyn o Brydain wedi cael eu cyhuddo o droseddau mewnfudo ar ôl i 18 o Albaniaid gael eu hachub o long yn suddo gerllaw arfordir Caint.

Ymddangosodd Mark Stribling, 35 oed, a Robert Stilwell, 33 oed, gerbron llys ynadon Medway heddiw i wynebu cyhuddiadau o dan Adran 25 (1) o Ddeddf Mewnfudo 1971.

Mae’r ddau wedi cael eu cadw yn y ddalfa tan y byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Maidstone ar 27 Mehefin.

Roedd dau o blant a dynes ymhlith y grŵp o 18 o Albaniaid ar fwrdd y cwch a gychwynnodd suddo gerllaw Dymchurch, Caint, nos Sadwrn.

Cafodd y ddau Brydeiniwr hefyd eu hachub a’u trosglwyddo wedyn i Lu’r Ffiniau.

Mae’r digwyddiad wedi arwain at ofnau y gallai’r math o drasedïau a welir yng ngwlad Groeg neu’r Eidal gychwyn digwydd yn y culfor rhwng Lloegr a Ffrainc.

Yn ôl gwylwyr y glannau Ffrainc, mae hi fwy neu lai’n amhosibl bellach i fewnfudwyr anghyfreithlon ddod i Brydain trwy Dwnel y Sianel neu ar gychod fferi, a’r pryder yw y bydd smyglwyr yn troi at ddulliau eraill peryglus.