Ed Miliband i ddychwelyd i gabinet cysgodol Llafur?
Mae adroddiadau y gallai cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband ddychwelyd i gabinet cysgodol y blaid yn San Steffan.

Dydy’r arweinydd Jeremy Corbyn ddim wedi ymateb i’r adroddiadau hyd yn hyn.

Yn ystod cyfweliad gyda rhaglen Pienaar’s Politics ar Radio 5, dywedodd Corbyn fod Miliband yn “ffrind gwych” iddo.

Wrth ymgyrchu yn Doncaster – etholaeth Miliband – i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, dywedodd Corbyn mai “mater i’r dyfodol” fyddai trafod y posibilrwydd y gallai Miliband ddychwelyd i gabinet cysgodol y blaid.

‘Caffaeliad’

“Mae e’n ffrind gwych, mae e wedi gweithio’n galed iawn fel arweinydd Llafur yn y gorffennol, roedd e’n ysgrifennydd amgylchedd gwych ac rwy wrth fy modd o fod gyda fe heddiw yn ei etholaeth.”

Ychwanegodd fod Miliband yn “gaffaeliad mawr” i’r blaid, a bod ganddo “barch mawr” iddo.

Mae’r cyn-Ysgrifennydd Cartref Alan Johnson wedi ategu sylwadau Miliband drwy ddweud ei fod yn gobeithio gweld Miliband yn dychwelyd i reng flaen y blaid.

“Mae Ed yn dalentog dros ben, fe wnes i eistedd gydag e pan oedd e’n ysgrifennydd yr amgylchedd – mae e’n berson ifanc ar ei ffordd i fyny,” meddai Johnson wrth y Press Association.

“Fe ddylid ei groesawu yn ôl i’r rheng flaen.”