Mae’r heddlu fu’n chwilio am ddyn 46 oed o wledydd Prydain aeth ar goll yn dilyn damwain cwch cyflym yng Ngwlad Thai ddydd Iau wedi dod o hyd i gorff.

Fe fu’r awdurdodau’n chwilio am Jason Purnell ar ôl i gwch suddo oddi ar arfordir Koh Samui.

Bu farw dynes 28 oed o wledydd Prydain, Monica O’Connor, ynghyd â dyn o’r Almaen a dynes o Hong Kong.

Mae’r awdurdodau’n aros i adnabod y pedwerydd corff.

Roedd Jason Purnell yn dathlu pen-blwydd ei briodas gyda’i wraig Puja.

Roedd 36 o bobol ar y cwch pan suddodd mewn dyfroedd garw a gwyntoedd cryfion.

Cafodd capten y cwch, Sanan Seekakiaw ei arestio’n dilyn y digwyddiad ac mae’n wynebu deng mlynedd yn y carchar am achosi marwolaeth drwy fod yn ddiofal.

Mae Seekakiaw yn honni bod nifer o bobol wedi tynnu cyfarpar diogelwch yn ystod y daith.