Nicola Sturgeon yn gweld arddangosfa o frwydr Jutland yn eglwys Rosyth, Fife y prynhawn yma (llun: Ashley Coombes/Gwifren PA)

Mae cannoedd o bobl yn yr Alban wedi bod yn nodi canmlwyddiant brwydr forwrol fwyaf y Rhyfel Mawr ar gychwyn wythnos o ddigwyddiadau.

Fe fu farw dros 8,500 o forwyr Prydain a’r Almaen oddi ar arfordir Denmarc ym mrwydr Jutland a gychwynnodd ar 31 Mai 1916, brwydr a barhaodd am 36  awr ac a newidiodd gwrs y rhyfel.

Roedd y llu o longau wedi cychwyn o’r Firth of Forth ac mae sermonïau wedi cael eu cynnal y prynhawn yma yn Rosyth yn swydd Fife a South Queensferry yn West Lothian, dwy dref sydd gyferbyn â’i gilydd ar ddwy ochr y Forth.

Ymysg y rhai a fu’n gosod torchau yn eglwys Rosyth roedd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon:

“Mae’r digwyddiad canmlwyddiant hwn yn gyfle inni anrhydeddu a thalu teyrnged i’r miloedd lawr o forwyr o’r ddwy ochr a gollodd eu bywydau yn ystod Brwydr Jutland,” meddai.

“Rhaid gofalu na fydd yr aberth a wnaed gan y rheini a ymladdodd y frwydr hon, gwrthdaro morwrol mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf, a morwyr eraill drwy’r holl frwdro, byth yn cael ei anghofio.”