Mae ymchwiliad mewnol gan y Blaid Lafur wedi penderfynu nad oedd sail i gyhuddiad o wrth-Iddewiaeth yn erbyn un o’i haelodau.

Yn sgil hyn mae’r gwaharddiad ar aelodaeth Jackie Walker o Gaint wedi cael ei codi.

Roedd hi wedi cael ei gwahardd yn gynharach y mis yma ar ôl cŵyn gan y Jewish Chronicle yn erbyn sylwadau dadleuol am Israel a wnaeth ar gyfryngau cymdweithasol.

“Yn dilyn canlyniad ymchwiliad, nid yw Jacqueline Walker wedi ei gwahardd mwyach ac mae’n dal yn aelod o’r Blaid Lafur,” meddai llefarydd ar ran Llafur.

Democratiaeth

“Dw i’n falch fod yr ymchwiliad yma wedi fy nghlirio i o unrhyw gamwedd, meddai Jackie Walker.

“Dw i ddim yn hiliol, ond dw i’n mynnu fy hawl i a hawl eraill i siarad yn agored ac yn blaen am faterion o pwysigrwydd gwleidyddol a hanesyddol.

“Dyma gonglfaen yr hawl i’r rhyddid i siarad yn ein democratiaeth.”

Mae hi hefyd yn aelod o’r garfan Momentum o fewn y blaid Lafur, sef cefnogwyr brwd arweinyddiaeth Jeremy Corbyn, a dywed ei bod yn amau rhai o’i  wrthwynebwyr o gynllwynio yn ei herbyn.