Mae’r ymgyrch swyddogol o blaid tynnu gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn dweud y byddan nhw’n cynnig gwobr o £50miliwn i unrhyw un sydd yn darogan pob canlyniad yn Ewro 2016 yn gywir.

Yn ôl Vote Leave, y bwriad ydi ceisio cael mwy o bobol i gymryd rhan yn y drafodaeth ynglŷn â’r refferendwm, fydd yn cael ei chynnal ar 23 Mehefin.

Ond mae’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd i’r ymgyrch gasglu manylion cyswllt gan fod rhaid rhoi rhif ffôn, e-bost a chyfeiriad wrth gofrestru.

Mae’n rhaid hefyd darogan canlyniad pob gêm grŵp yn ogystal ag enillwyr rowndiau hwyrach y gystadleuaeth i ennill y £50m, rhywbeth y mae cwmnïau betio wedi dweud fyddai bron yn amhosib.

‘Cost ddyddiol’

Cafodd y wobr o £50m ei ddewis gan mai dyna y mae Vote Leave yn ei honni yw’r gost ddyddiol i Brydain o fod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Ond maen nhw’n dweud y byddai gwobr o £50,000 hefyd yn cael ei roi i’r person sydd yn darogan y mwyaf o ganlyniadau cywir yn olynol o ddechrau’r gystadleuaeth, rhag ofn nad oes unrhyw un yn llwyddo gyda’r brif wobr.

“Mae gormod o bobol, yn enwedig pobol ifanc, sydd ddim yn cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth a ddim yn bwriadu pleidleisio yn y refferendwm,” meddai Dominic Cummings, cyfarwyddwr Vote Leave.

Ychwanegodd fod y wobr o £50m yn fwy nag y mae unrhyw un erioed wedi’i ennill ar y loteri genedlaethol.

Print mân

Dywedodd Vote Leave bod yr arian ar gyfer y wobr yn cael ei ddarparu gan “ddau roddwr”, a bod modd i bobol ddewis peidio â derbyn deunydd ymgyrchu ganddyn nhw.

Ond mae amodau’r gystadleuaeth hefyd yn dweud y bydd unrhyw un sydd yn darogan pob canlyniad yn gywir yn colli’u hawl i’r wobr os nad yw Vote Leave yn medru cysylltu â nhw o fewn 24 awr.

Mae’r rheolau hefyd yn dweud fod gan yr ymgyrch yr hawl i “dynnu gwobr yn ôl ac i addasu, atal, canslo neu derfynu’r wobr”.

Yn ôl bwcis Ladbrokes, fe fyddai darogan dim ond holl gemau grŵp Ewro 2016 yn gywir yn cael ei wobrwyo ag ods o wyth biliwn i un, ac felly byddai unrhyw un oedd yn ddigon hyderus i geisio dyfalu’r cyfan yn gyfoethocach petaen nhw’n rhoi bet arno yn lle hynny.