David Cameron, Llun: PA
Mae’r Undeb Ewropeaidd a Japan wedi dod i gytundeb ar gwblhau bargen fasnach all fod yn werth £5 biliwn y flwyddyn i economi’r DU, yn ôl Downing Street.

Mewn trafodaethau yng nghynhadledd gwledydd y G7 yn Japan, cytunodd arweinwyr, gan gynnwys David Cameron, i geisio cwblhau’r cytundeb erbyn yr hydref hwn, a fyddai’n ei weld yn dod i rym y flwyddyn nesaf.

Dechreuodd trafodaethau yn 2013, a’u bwriad oedd ei gwblhau’r llynedd.

Dywedodd Downing Street y gallai’r cytundeb fod cyfwerth â £200 y flwyddyn i aelwydydd y DU trwy arbedion ar gynnyrch fel ceir, nwyddau, cemegau a bwyd a diod.

Ond mae elfennau allweddol y fargen – yn cynnwys tariffau ar allforion amaethyddol a moduron – eto i’w cwblhau dros yr haf os yw’r cytundeb i gael ei lofnodi erbyn diwedd y flwyddyn.