Sajid Javid yn cwr dd a gweithwyr dur Port Talbot ym mis Ebrill (Llun: Ben Birchall/PA)
Bydd Llywodraeth Prydain yn lansio ymgynghoriad ynglŷn â newidiadau i gynllun pensiwn gweithwyr dur Tata mewn ymgais i achub y diwydiant yn y DU.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid, gyhoeddi’r penderfyniad mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl cyrraedd yn ôl o drafodaethau â chynrychiolwyr y cwmni ym Mumbai.

Byddai’r newidiadau yn cynnwys torri rhwymedigaethau tymor hir y Gronfa Bensiwn Ddur Brydeinig drwy ei gosod ar fynegai pris y prynwr yn hytrach na’r mynegai pris adwerthu, sy’n costio mwy.

Gallai’r newid arbed £2.5 biliwn ond byddai’n lleihau budd-daliadau i’r sawl sy’n derbyn pensiwn.

Dydy undebau llafur heb dderbyn y penderfyniad eto, gan aros am fwy o fanylion yn yr ymgynghoriad.

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi croesawu’r camau gan Lywodraeth Prydain.

Ond mae cyn-Weinidog Pensiynau’r Llywodraeth, Steve Webb, wedi rhybuddio y byddai’r Llywodraeth yn “gosod cynsail peryglus” os bydd yn ceisio newid y gyfraith bensiynau.

Ond fe bwysleisiodd Sajid Javid  y byddai’r newidiadau yn “unigryw i gynllun pensiwn y cwmni” ac nad oes bwriad i’w cyflwyno ar lefel ehangach.

Awgrym nad yw Tata am werthu

Yn y cyfamser, mae Tata yn dal i ystyried cynigion dros brynu’r busnes yn y DU, er mae ‘na awgrymiadau y gallai newid ei feddwl a phenderfynu peidio gwerthu wedi’r cwbl.

Mae’r ymgynghoriad, sydd ar agor tan 23 Mehefin, yn nodi pedwar opsiwn posib ar gyfer y gronfa, sydd â 130,000 o aelodau, gan gynnwys 14,000 sy’n cael eu cyflogi gan Tata ar hyn o bryd.

Nid yw 32,000 bellach yn cael eu cyflogi gan Tata ac mae 84,000 yn bensiynwyr yn barod.

Yr opsiynau yw:

  • Cadw at y system bresennol
  • Cadw’r system ond bod y cyflogwr yn rhoi blwydd-daliadau i dalu am fudd-daliadau aelodau
  • Newid y gyfraith
  • Creu system newydd