Mae perchennog bwyty Indiaidd wedi cael ei garcharu am chwe blynedd ar ôl ei gael yn euog o ladd cwsmer oedd yn dioddef o alergedd i gnau.

Cafwyd Mohammed Zaman, 53, o Huntington, Caerefrog yn euog o ddynladdiad Paul Wilson, 38, yn dilyn achos yn Llys y Goron Teesside.

Roedd Paul Wilson wedi gofyn am bryd parod o chicken tikka masala “heb gnau” ond cafodd ei gyri ei goginio gyda chymysgedd oedd yn cynnwys cnau ym mwyty’r Indian Garden yn Easingwold, Gogledd Swydd Efrog.

Cafwyd hyd i Paul Wilson yn farw yn ei gartref yn Helperby ym mis Ionawr 2014 ar ôl iddo ddechrau bwyta’r pryd parod.

Yn ôl yr erlyniad, roedd Zaman, oedd a dyledion busnes  o bron i £300,000, wedi newid o ddefnyddio powdr cnau almon i un oedd yn cynnwys pysgnau – er gwaetha’r rhybuddion – er mwyn arbed costau.

Dywedodd y barnwr Simon Bourne-Arton bod Zaman wedi bod yn ddyn busnes llwyddiannus ers dod i’r DU mwy na 40 mlynedd yn ôl ond ei fod wedi rhoi “elw cyn diogelwch” ei gwsmeriaid.

Roedd Zaman wedi gwadu cyhuddiad o ddynladdiad drwy esgeulustod dybryd, gwyrdroi cwrs cyfiawnder a chwe throsedd yn ymwneud a diogelwch bwyd. Fe’i cafwyd yn euog o’r holl gyhuddiadau ar wahân i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Yn dilyn y dyfarniad dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod gan gwmnïau sy’n darparu bwyd ddyletswydd i ofalu am eu cwsmeriaid.