Mae prif olygydd The Sun yn mynnu nad oedd y papur newydd wedi gwneud camgymeriad wrth ddweud bod y Frenhines yn cefnogi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg (IPSO) i’r casgliad fod y pennawd “Queen backs Brexit” yn anghywir.

Ond mae Tony Gallagher yn mynnu bod modd cyfiawnhau’r pennawd.

Roedd y stori’n honni bod y Frenhines wedi mynegi ei dicter am yr Undeb Ewropeaidd wrth y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Nick Clegg yn ystod cinio yng nghastell Windsor pan oedd e’n dal yn ei swydd.

Hon oedd y gwyn gyntaf gan frenin neu frenhines i’r rheoleiddiwr, ac fe ddaeth i’r casgliad fod y pennawd wedi torri Cymal 1 Cod Ymarfer y Golygyddion, sef cywirdeb.

‘Dim camgymeriad’

Dywedodd Tony Gallagher wrth raglen Today ar BBC Radio 4 nad yw’n “derbyn ein bod wedi gwneud camgymeriad o gwbl”.

“Fe wnaethon ni benderfynu bod y pennawd yn gywir ac fe gafodd ei gefnogi gan y stori.”

Ychwanegodd na fyddai’n “ymddwyn yn wahanol” pe bai’r sefyllfa’n codi eto yn y dyfodol.

Tra nad oedd yr erthygl yn torri’r Cod Ymarfer, dywedodd y rheoleiddiwr fod y pennawd yn torri’r Cod drwy gyflwyno barn y Frenhines fel “ffaith”.

‘Gwleidyddol niwtral’

Roedd y papur newydd wedi honni bod dwy ffynhonnell ddienw yn dweud bod y Frenhines wedi beirniadu’r Undeb Ewropeaidd ar ddau achlysur gwahanol – yn ystod y cinio yng nghastell Windsor ac mewn derbyniad ar gyfer Aelodau Seneddol ym Mhalas Buckingham.

Dywedodd Clegg ar y pryd fod yr honiadau’n “nonsens”, tra bod Palas Buckingham wedi mynnu bod y Frenhines yn “wleidyddol niwtral”.

Dywedodd y papur newydd y bydden nhw’n amddiffyn eu safbwynt “yn gadarn”, tra bod yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Michael Gove wedi gwrthod wfftio adroddiadau mai fe oedd yn gyfrifol am ryddhau’r stori yn y lle cyntaf.

Mae Palas Buckingham wedi gwrthod gwneud sylw.