Arlene Foster, sy'n sicr o gael ei hailethol yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon (llun: PA)
Dal i gael eu cyfrif y mae gweddill y pleidleisiau ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi’r etholiad ddydd Iau.

Gyda’r mwyafrif o’r etholaethau wedi cael eu cyhoeddi, mae’r DUP a Sinn Fein wedi dal gafael ar eu safle fel prif bleidiau’r glymblaid sy’n rhannu grym yn Stormont. Mae’n bosibl y gallan nhw fod ag union yr un niferoedd o seddau ag a gawson nhw yn 2011.

Mae hyn yn golygu y bydd Arlene Foster o’r DUP yn parhau fel Prif Weinidog a Martin McGuinness o Sinn Fein fel Dirprwy Brif Weinidog.

Erbyn canol y bore, gyda 88 allan o’r 108 o seddau wedi eu llenwi, roedd gan y DUP 34 aelod, Sinn Fein 20, Unoliaethwyr Ulster 12, yr SDLP 10, y Gynghrair 7, PBPA 2, y Gwyrddion 2 a’r TUV un.

Roedd 276 o ymgeiswyr yn sefyll mewn 18 etholaeth aml-aelod yn yr etholiad.