David Attenborough
Ni fydd llong ymchwil newydd gwerth £200 miliwn yn cael ei henwi’n Boaty McBoatface wedi’r cwbl.

Yn hytrach, yr RRS Sir David Attenborough fydd yr enw. Caiff y llong ei henwi ar ôl y cyflwynydd natur sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 90 mlwydd oed ddydd Sul.

Daeth yr enw RRS Boaty McBoatface i’r brig mewn arolwg barn ar-lein gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) gyda mwy na 124,000 o bleidleisiau – mwy na thair gwaith y gwrthwynebydd agosaf.

Ond fe fydd llong danfor felyn, sydd i gael ei defnyddio gan griw’r llong i archwilio’r moroedd pegynol, yn cael ei henwi yn Boaty McBoatface.