Ffoaduriaid ar ffin Macedonia (Llun: Arbeitsbesuch Mazedonien CCA2.0)
Mae cyn-ffoadur Iddewig o’r Almaen wedi galw ar Lywodraeth Prydain i dderbyn hyd at 3,000 o blant o Syria.

Dywedodd Syr Erich Reich, cadeirydd Kindertransport, sy’n cynrychioli ffoaduriaid Iddewig, y dylai’r Prif Weinidog David Cameron wneud mwy i gefnogi “rhai o ddioddefwyr mwyaf bregus” y rhyfel.

Yn ei lythyr, dywedodd y dylai Cameron “ddangos trugaredd”, yn ôl y BBC.

Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi ymrwymo i dderbyn 20,000 o ffoaduriaid, a hyd at 3,000 yn rhagor, a’r rheiny ar y cyfan yn blant heb eu rhieni o’r tu allan i Ewrop.

Ond mae hi’n annhebygol bod y ffigwr hwn yn cynnwys plant sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop heb eu rhieni.

Roedd Syr Erich Reich yn un o 10,000 o blant a gafodd eu hanfon o Ewrop yn ystod cyfnod y Natsïaid i wledydd Prydain.

Daeth i Brydain yn 1939, a wnaeth e ddim gweld ei rieni eto.

Yn ei lythyr, dywedodd ei bod yn peri “tristwch mawr” nad yw cynlluniau i groesawu plant heb eu rhieni wedi cael eu derbyn hyd yma.

Dywedodd y dylai’r llywodraeth ymateb er mwyn “dangos tosturi a charedigrwydd dynol drwy gynnig lloches i’r rhai mewn angen”.