Daeth buddugoliaeth hanesyddol i glwb pêl-droed Caerlŷr neithiwr, wrth iddyn nhw gipio pencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr am y tro cyntaf yn hanes y clwb.

Ar ddechrau’r tymor, 5,000-1 oedd eu siawns o ennill y bencampwriaeth honno, ac roedd honiadau ar led mai eu rheolwr, Claudio Ranieri, fyddai un o’r ffefrynnau i gael ei wahardd gyntaf.

Ond, daeth eu buddugoliaeth hanesyddol wedi i Chelsea chwarae Tottenham Hotspur yn Stamford Bridge neithiwr gan sicrhau sgôr gyfartal o 2-2.

Fe allai Caerlŷr fod wedi ennill y bencampwriaeth wrth chwarae eu hunain ddydd Sul, ond y sgôr derfynol yn erbyn Manchester United oedd 1-1.

Buddugoliaeth ddwbl

Bu’r garfan yn dathlu mewn parti arbennig neithiwr ac, yn eu plith, roedd y chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, Andy King.

Yn ôl rheolwr y clwb, Claudio Ranieri, a gafodd ei benodi’r haf diwethaf, “Wnes i erioed ddisgwyl hyn pan wnes i gyrraedd.

“Dw i’n ddyn pragmataidd, roeddwn i eisiau ennill gêm ar ôl gêm a helpu fy chwaraewyr i wella wythnos ar ôl wythnos. Wnes i erioed feddwl pa mor bell fyddai hynny’n mynd â ni.”

Daeth buddugoliaeth ddwbl i Gaerlŷr dros y penwythnos hefyd, wrth i Mark Selby sy’n wreiddiol o Gaerlŷr, gipio pencampwriaeth snwcer y byd.