Gerry Adams
Mae arweinydd plaid Sinn Fein wedi cael ei orfodi i ymddiheuro am ddefnyddio term hiliol wrth gyfeirio at ffilm Quentin Tarantino am gaethwasiaeth.

Mae Gerry Adams wedi cyfadde’ bod defnyddio’r gair yn dechrau gydag ‘n’ wrth son am bobol groenddu yn “amhriodol”. Mae’r neges ar wefan gymdeithasol, Twitter, lle gwnaeth y sylw, wedi’i dileu.

“Rydw i’n ymddiheuro am unrhyw ofid achoswyd,” meddai, wedi i’r neges ddenu ymateb flin gan wrthwynebwyr gwleidyddol nos Sadwrn.

“Dw i wedi cydnabod fod defnyddio’r gair yn dechrau gydag ‘n’ yn amhriodol, a dyna pam fod y neges ar Twitter wedi’i dileu.”