Mae disgwyl i’r gwr busnes, Syr Philip Green, gael ei herio gan Aelodau Seneddol tros y “symiau anferthol” o arian a gafodd eu tynnu allan o gronfa taliadau pensiwn BHS tra’r oedd y cwmni’n mynd ar ei ben i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae Philip Green a’i wraig, Tina Green, wedi’u galw i roi tystiolaeth gerbron y pwyllgorau yn San Steffan sy’n ymchwilio i gwymp y gadwyn o siopau British Home Stores.

Mae Dominic Chappell, y dyn a brynodd y cwmni gan Philip Green am £1 y llynedd, hefyd wedi’i alw gerbron Aelodau Seneddol.

Fe gafodd £414m ei gymryd allan o gronfa bensiwn BHS dros gyfnod o bedair blynedd, a hynny pan oedd y gronfa ar i lawr. Mae disgwyl i Philip Green a’i wraig orfod ateb cwestiynau am hynny, gan fod y gronfa honno bellach £571m yn y coch, a 11,000 o weithwyr yn wynebu dyfodol ar y clwt a heb bensiwn.