Sian Blake (Llun trwy law Heddlu Llundain)
Mae partner yr actores Sian Blake, fu’n rhan o’r opera sebon Eastenders, wedi cyfaddef iddo’i lladd hi a’u dau blentyn.

Roedd Arthur Simpson-Kent, dyn trin gwallt 48 oed, wedi’i gyhuddo o lofruddio ei bartner 43 oed a’u meibion, Zachary, oedd yn wyth a Amon oedd yn bedwar, rhwng 12 a 16 Rhagfyr y llynedd.

Bu i’r meirw ddiflannu ar 13 Rhagfyr a chafwyd hyd i’w cyrff yng ngardd y teulu yn Erith, yn Swydd Caint ar 5 Ionawr.

Mis yn ddiweddarach, cafodd Arthur Simpson-Kent ei arestio ym Maes Awyr Heathrow ar ôl cytuno i gael ei estraddodi o Ghana.

Ymddangosodd ar fideo o garchar Belmarsh gerbron yr Ustus Singh yn yr Hen Feili, gan gadarnhau ei enw yn unig.

Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa hyd nes y gwrandawiad nesaf ar 29 Gorffennaf.

Roedd Sian Blake yn portreadu ‘Frankie Pierre’ yn EastEnders rhwng 1996 a 1997. Roedd yn dioddef o glefyd motor niwron cyn ei marwolaeth.