Dawn Copley (Llun Heddlu De Swydd Efrog)
Mae Prif Gwnstabl dros dro Heddlu De Swydd Efrog wedi gofyn am gael camu o’r neilltu, ddiwrnod ar ôl iddi gymryd lle’r Prif Gwnstabl parhaol sydd wedi ei atal o’i waith tros drychineb Hillsborough.

Roedd Dawn Copley wedi cael ei phenodi yn lle David Crompton ar ôl iddo gael ei atal o’i waith oherwydd ymddygiad plismyn yn ystod cwest Hillsborough ond mae hithau’n destun ymchwiliad ynghylch llygredd gan ei chyn-gyflogwr, Heddlu Manceinion.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Swydd Efrog, Dr. Alan Billings, ei bod wedi “cynnig” ymddiswyddo a hynny am “nad oedd am ddod â beirniadaeth na sylw negyddol pellach i’r heddlu”.

Halen ar y briw

Mae Heddlu De Swydd Efrog eisoes wedi cael eu beirniadu’n llym am eu hymateb i gasgliadau cwest Hillsborough a ddyfarnodd fod 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl wedi eu lladd yn anghyfreithlon.

Fe gafodd y llu eu beirniadu ar ôl i swyddogion roi tystiolaeth gan barhau i bardduo’r cefnogwyr a gwadu beiau’r heddlu eu hunain – y ôl llawer o’r cefnogwyr, roedd hynny’n halen ar y briw.

Fe benderfynodd y Comisiynydd Heddlu lleol na allai’r Prif Gwnstabl aros yn ei swydd oherwydd hynny.

Roedd neges gan un o gyn-swyddogion yr Heddlu hefyd wedi canmol swyddogion o gyfnod y trychineb am wneud “gwaith da”.