The Sun Llun: PA
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi rhoi sêl bendith i ddwyn achosion yn erbyn papur newydd The Sun am hacio ffonau.

Mae cwmni News Group Newspapers (NGN), sydd wedi dod i gytundeb mewn nifer fawr o achosion a wnaethpwyd yn erbyn y News of the World, sydd bellach wedi dod i ben, wedi mynnu nad oedd hacio ffonau erioed wedi digwydd yn swyddfeydd ei chwaer bapur,  The Sun.

Ond heddiw, dywedodd y Barnwr Mr Ustus Mann bod gan bobl yr hawl i gyflwyno achosion am iawndal yn erbyn The Sun.

Mae disgwyl i ddau achos yn erbyn y papur ddigwydd mor gynnar â mis Gorffennaf.

Bydd hefyd hyd at 50 o achosion newydd yn erbyn NGN, gyda llawer ohonynt nawr yn cynnwys honiadau o hacio ffonau yn The Sun, yn cael eu cyhoeddi’n fuan hefyd.

Fe fydd NGN yn dadlau bod y ddau bapur newydd yn cael eu rhedeg ar wahân ac nad oedden nhw’n rhannu adnoddau newyddiadurol.