Llun o dudalen Facebook David Seath, ar y dde Llun: PA
Mae ffrindiau a chydweithwyr milwr a syrthiodd yn farw yn ystod Marathon Llundain ddydd Sul wedi penderfynu “cwblhau’r ras” ar ei ran.

Cafodd y Capten David Seath, 31, ei gludo i’r ysbyty wedi iddo lewygu tair milltir cyn y llinell derfyn, a bu farw’n ddiweddarach. Credir ei fod wedi cael ataliad ar y galon.

Roedd David Seath, a oedd wedi gwasanaethu yn Afghanistan, yn rhedeg er mwyn codi arian at yr elusen Help For Heroes.

Ar ei dudalen godi arian dywedodd: “Mae cymuned y lluoedd angen ein help a’n cefnogaeth barhaus.”

Am hynny, fe fydd ei ffrindiau a’i gydweithwyr yn dod ynghyd i gwblhau’r marathon ar ei ran gan barhau i godi arian at yr elusen.

Mewn neges ar y dudalen godi arian, maen nhw’n dweud: “Fe fyddwn ni’n cerdded y tair milltir olaf o’r marathon lle syrthiodd, fel un.”

Ar ôl cwblhau dwy radd meistr o Brifysgol Aberdeen, ymunodd David Seath, sy’n wreiddiol o Arbroath yn yr Alban, â’r Academi Frenhinol Filwrol yn 2009.