Cafodd y record ar gyfer cwrs marathon Llundain ei thorri yn ystod ras y dynion ddydd Sul, wrth i Eliud Kipchoge o Kenya ddod i’r brig.

Gorffennodd Kipchoge, 31, y ras mewn 02:03:04, yr ail amser gorau erioed mewn marathon.

Fe ddaeth o fewn saith eiliad i dorri record y byd Dennis Kimetto, ac fe sylweddolodd hynny wrth groesi’r llinell derfyn.

Ei gydwladwr Stanley Biwott oedd yn ail a Kenenisa Bekele o Ethiopia yn drydydd.

Roedd buddugoliaeth i Kenya yn ras y merched hefyd, wrth i Jemima Sumgong lwyddo i orffen y ras yn fuddugol yn dilyn anaf i’w phen wedi iddi gwympo yn ystod y ras.

Gorffennodd hi’r ras mewn 02:22:58.

Marcel Hug o’r Swistir enillodd ras cadeiriau olwyn y dynion wrth guro David Weir, wnaeth orffen yn drydydd, wrth i’r Americanwr Kurt Fearnley orffen yn ail.

Yr Americanes Tatyana McFadden enillodd ras cadeiriau olwyn y merched, gan ddod i’r brig am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.