Mae cerflun gwerth £10,000 o un o feirdd mawr yr iaith Saesneg, yr Arglwydd Byrn, wedi’i ddwyn o barc yng Nghaint.

Mae’r cerflun 4 troedfedd, mewn marmor, o Byron, wedi’i gymryd o Barc Godmersham ger Ashford

Mae Heddlu Caint yn dweud fod y darn yn “eithriadol o drwm” ac y byddai angen nifer o bobol i’w symud, rhywbryd rhwng hanner nos a 5 o’r gloch y bore, Ebrill 20.