Ffoaduriaid ar ffin Macedonia (Arbeitsbesuch Mazedonien CCA2.0)
Mae Llywodraeth Prydain wedi addo cymryd rhai cannoedd yn rhagor o blant ffoaduriaid bob blwyddyn o’r Dwyrain Canol a De Affrica.

Ond maen nhw wedi cael eu cyhuddo o ail-adrodd hen newyddion ac o fethu â gwneud digon i helpu plant sydd eisoes wedi cyrraedd Ewrop.

Ac mae’r pwysau’n parhau ar iddyn nhw dderbyn 3,000 o blant o leoedd fel yr Eidal a Gwlad Groeg hefyd.

Yr addewid

Yn ôl y Llywodraeth, y cynllun yma yw’r mwya’ yn y byd ar gyfer plant o’r ardaloedd ble mae’r ymladd yn digwydd.

Y disgwyl yw y bydd 3,000 yn cael lloches erbyn diwedd oes y Llywodraeth yma erbyn 2020 – fe fydd yn cynnwys plant sydd ar eu pennau eu hunain.

Fe fydd yn ychwanegol at yr addewid at dderbyn 20,000 o ffoaduriaid Syriaidd o’r Dwyrain Canol yn yr un cyfnod.

“Bydd y rhan fwya’ o blant yn well eu byd os byddan nhw’n aros yng ngwledydd y rhanbarth fel bod modd eu hailuno gyda pherthnasau sy’n dal yn fyw,” meddai’r Gweinidog Mewnfudo, James Brokenshire.

Y feirniadaeth

Ail-adrodd hen newyddion oedd hyn, yn ôl Yvette Cooper, y cyn-weinidog Llafur. “Dyw e’n cynnwys dim newydd i helpu’r miloedd o blant sydd ar ffo ar eu pen eu hunain yn Ewrop ac mewn peryg o gael eu gwerthu, eu defnyddio’n rhywiol neu eu cam-drin.”

Ac mae’r Arglwydd Llafur, Alf Dubs, wedi dweud y bydd yn parhau gydag ymgyrch i orfodi’r Llywodraeth i dderbyn 3,000 o blant ffoaduriaid o Ewrop.