Victoria Wood Llun: Ian West/PA Wire
Mae’r gomedïwraig a’r actores Victoria Wood wedi marw yn 62 oed.

Roedd wedi cael brwydr fer gyda chanser, meddai ei llefarydd Neil Reading.

Bu farw yn ei chartref yn Llundain gyda’i theulu o’i chwmpas, meddai.

Mae’r teulu wedi gofyn am breifatrwydd.

Roedd Victoria Wood yn ddigrifwraig, yn actores, cantores, sgriptwraig a chyfarwyddwraig.

Fe ddechreuodd ei gyrfa yn 1974 ar ôl iddi ennill y sioe dalent ‘New Faces’. Daeth i amlygrwydd yn yr 80au gyda’i chyfres deledu ‘Victoria Wood As Seen on TV’ ac ym 1998 fe ysgrifennodd ac actio yn y gyfres gomedi Dinnerladies ar gyfer y BBC.

Yn 2006 fe enillodd wobr Bafta am ei drama ‘Housewife, 49’ ar ITV.

Cafodd OBE yn 2008.

Fe ymddangosodd yn gyson ar y teledu gyda’r actorion Julie Walters, Duncan Preston a Celia Imrie.

‘Eicon’

Mae teyrngedau lu wedi cael eu rhoi i Victoria Wood.

Dywedodd yr actores Jennifer Saunders: “Yn syml roedd Vic yn un o’r ysgrifenwyr a pherfformwyr mwyaf doniol mae’r wlad yma erioed wedi’i chynhyrchu. Roedd hi’n ysbrydoliaeth ac fe fydd colled enfawr ar ei hol.”

Ychwanegodd y  ddigrifwraig Sarah Millican ei bod wedi “tristau’n ofnadwy” o glywed y newyddion ac fe ddisgrifiodd Victoria Wood fel “eicon gomedi.”

A dywedodd y ddigrifwraig Jenny Eclair bod gan “ferched ym myd comedi ddyled enfawr i Victoria – hi wnaeth arwain y ffordd.”