Llun: Steve Parsons/PA Wire
Mae Nwy Prydain yn ystyried cael gwared a 684 o swyddi yn ei swyddfeydd a chau ei swyddfa yn Oldbury.

Dywed y cwmni ei fod yn rhan o gynlluniau i “uno” ei wahanol adrannau.

Bydd y cwmni’n ymgynghori a’i gweithwyr a’r undebau dros y 45 diwrnod nesaf ac yn “edrych ar gyfleoedd” i symud staff i swyddfeydd eraill os daw cadarnhad ynglŷn â chau’r swyddfa yn Oldbury.

Dywedodd Claire Miles, rheolwr gyfarwyddwr adran gwsmeriaid y cwmni: “Ers yr haf y llynedd mae Nwy Prydain wedi bod yn cyflwyno strategaeth i wella ei wasanaeth a gostwng costau, er mwyn sicrhau bod ein prisiau yn gystadleuol. Mae’n rhaid i ni hefyd ymateb i ofynion ein cwsmeriaid, ac yn gynyddol maen nhw eisiau cysylltu â ni ar-lein.

“Am y rhesymau hyn rydym yn ystyried uno ein hadrannau ar lai o safleoedd ac rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i argymell cau ein swyddfa yn Oldbury a’r ganolfan alwadau.”

Ychwanegodd ei bod yn cydnabod bod y newyddion heddiw yn “anodd” i’r gweithwyr hynny fydd yn cael eu heffeithio.

Yn ôl Brian Strutton, swyddog cenedlaethol undeb y GMB mae’r newyddion yn “hollol annisgwyl” ac y bydd yn brwydro i ddiogelu’r swyddi.