Llys Apêl
Mae papur newydd, a oedd wedi cael gorchymyn i beidio â chyhoeddi enw dyn adnabyddus oedd wedi bod “ynghlwm â gweithredoedd rhyw tu allan i briodas” – bellach wedi cael yr hawl i wneud hynny.

Roedd golygyddion The Sun on Sunday  am gyhoeddi stori am “orchestion rhywiol” y dyn, sydd medden nhw, yn enwog.

Ond, fe gymerodd y dyn hwnnw gamau cyfreithiol yn erbyn y papur newydd, ac yn gynharach eleni fe gyflwynodd dau o farnwyr y Llys Apêl waharddiad ar y cyhoeddwyr rhag datgelu pwy oedd y gŵr a gâi ei gyfeirio ato fel ‘PJS’ yn y llys.

Er hyn, mae adroddiadau wedi datgelu’r hanes yn yr UDA, ac yn dilyn her gan gyfreithwyr y papur newydd yn y DU, mae tri o farnwyr y Llys Apêl wedi dweud y gellir codi’r gwaharddiad.

Ond, ni fydd ei enw’n cael ei ryddhau tan y bydd Barnwyr wedi dyfarnu a ddylid mynd â’r achos i’r Goruchaf Lys ai peidio, yn dilyn cais gan gyfreithwyr ‘PJS’.