Angela Wrightson (Llun Heddlu Cleveland)
Fe fydd dwy ferch 15 oed yn cael eu dedfrydu heddiw am lofruddio gwraig 39 oed mewn ymosodiad a barodd am oriau gan achosi mwy na 100 o anafiadau.
Dim ond 13 a 14 oedd y ddwy ar y pryd pan laddon nhw Angel Wrightson yn Hartlepool yn Swydd Durham.
Ar ôl eu cael yn euog yn Llys y Goron Leeds, roedd yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi mynegi arswyd at ffyrnigrwydd yr ymosodiad.
‘Cïaidd’
Roedd y ddwy ferch wedi gwneud galwadau ffôn a thynnu hunluniau – selfies – ohonyn nhw ac Angela Wrightson adeg yr ymosodiad.
“Yn ein cymdeithas, mae’n anodd dychmygu y gallai dwy ferch mor ifanc gyflawni’r fath drais,” meddai Gerry Wareham o Wasanaeth Erlyn y Goron.
“Roedd yr ymosodiad gan y merched ar Angela Wrightson yn gïaidd a hir. Allwch chi ond dychmygu yr ofn a’r gofid a deimlodd hi yn oriau ola’i bywyd.”
Y cefndir
Llysenw’r wraig oedd ‘Alco Ange’ ac roedd y merched wedi bod yn mynd ati’n gyson i yfed a smocio.
Yn ôl un o’r ddwy ferch, a oedd ill dwy mewn gofal, roedden nhw wedi bod yn yfed ac roedd hi wedi cymryd cyffuriau meddygol.
Mae’r barnwr eisoes wedi eu rhybyddio y byddan nhw’n cael carchar am oes.