A ddaw'r frenhiniaeth i ben wedi Elizabeth II?
Wrth i’r Frenhines Elizabeth II baratoi i ddathlu ei phen-blwydd yn 90 oed, mae academydd wedi awgrymu y daw’r Frenhiniaeth i ben erbyn 2030.

Dywed Dr Anna Whitelock, sy’n ddarlithydd mewn Hanes yn Royal Holloway yn Llundain, mai ufudd-dod i’r Frenhines sy’n cynnal y teulu brenhinol ar hyn o bryd, ac nid unrhyw fath o gefnogaeth i’r sefydliad.

Dywedodd na fu trafodaeth ar y mater hyd yma gan fod pobol yn ofni amharchu’r Frenhines.

Herio’r sefydliad

Awgrymodd y gallai’r sefydliad gael ei herio o fewn dau ddegawd mewn modd na chafodd ei herio o’r blaen, ond na fyddai trafodaeth o’r fath yn gallu digwydd tra bo’r Frenhines yn dal ar yr orsedd.

“Wrth i’r genhedlaeth hŷn, sydd ar y cyfan yn fwy cefnogol i’r frenhiniaeth, farw yna fe fydd y cwestiwn ynghylch dyfodol y frenhiniaeth yn dod yn fwy o bwnc llosg ac yna, fe allai lleisiau mwy beirniadol ddod i’r amlwg.”

Wrth i’r Frenhines ddathlu ei Jiwbili Ddiemwnt yn 2012, roedd y gefnogaeth i’r teulu brenhinol wedi cyrraedd 80% drwy wledydd Prydain.

Ond fe gwympodd i 65% adeg priodas Charles a Camilla yn 2005 ac i 69% yn 1993, flwyddyn wedi’r “annus horribilis”.

Adeg marwolaeth y Dywysoges Diana, dim ond 66% o’r bobol a gafodd eu holi oedd yn fodlon ar berfformiad y Frenhines.

‘Dynes anhygoel’

Ychwanegodd Dr Anna Whitelock: “Pa un a ydych chi’n frenhiniwr neu beidio, a hyd yn oed yn weriniaethwr pybyr, does neb, dwi ddim yn meddwl, yn dweud y dylid diddymu’r frenhiniaeth tra bo’r Frenhines ar dir y byw.”

Ychwanegodd fod “pawb o’r farn ei bod hi’n ddynes anhygoel”.

Mae Palas Buckingham wedi gwrthod ymateb i’r sylwadau.