Fe fydd tri dyn yn ymddangos gerbron llys yn ddiweddarach y mis hwn wedi’u cyhuddo o ddwyn bws.

Mae John Burton, 38, o Dudley, wedi’i gyhuddo o gymryd cerbyd heb ganiatad, o yrru tra’i fod wedi’i wahardd, ac o ddefnyddio cerbyd heb yswiriant. Mae wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Wolverhampton ar Ebrill 29.

Mae Peter Loveland, 39, a Thomas Tibbs, 20, wedi ymddangos gerbron ynadon Sandwell fore heddiw, wedi’u cyhuddo o gymryd cerbyd heb ganiatad. Maen nhw ill dau wedi’u rhyddhau ar fechniaeth amodol nes y byddan nhw’n ymddangos eto gyda John Burton yn Wolverhampton ar Ebrill 29.

Mae pob un o’r cyhuddiadau’n ymwneud â bws unllawr a gafodd ei gymryd o Coseley, West Midlands, yn ystod oriau mân fore Iau yr wythnos hon.