Mae banc y Co-operative wedi cyhoeddi bod ei golledion wedi mwy na dyblu eleni i £610.6 miliwn, gydag amodau gwael yn y farchnad yn cael y bai.

Collodd y banc £264.2 miliwn mewn elw cyn treth yn y flwyddyn hyd at ddiwedd mis Rhagfyr y llynedd, wrth iddo ddioddef o farchnadoedd anwadal a chyfraddau llog isel.

Fodd bynnag, yn yr un cyfnod, fe neidiodd cyflog y Prif Weithredwr, Niall Booker, i £3.8 miliwn yn yr un cyfnod, am iddo elwa ar dâl anogaeth.