Mae gwerth hanner miliwn o ewros o’r cyffur cocên wedi’i atal mewn cyrch yn ninas Dulyn.

Fe gafodd y cyffur ei ganfod tra’r oedd yr heddlu’n chwilio adeilad yn ardal Coolquay, The Ward, ac mae dod o hyd i’r 7 cilo wedi ei ddisgrifio fel “ergyd sylweddol” i gangiau sy’n gweithredu yn y ddinas.

Does neb wedi’i arestio mewn perthynas a’r digwyddiad eto, ond mae’r ymchwilio’n parhau.