Yr iard yng Ngharchar Kilmainham
Mae arlywydd Iwerddon, Michael D Higgins, wedi gosod torch yn y man lle cafodd 15 o wrthryfelwyr eu saethu’n farw am eu rhan yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916.

Mewn seremoni deimladwy yn yr iard yng Ngharchar Kilmainham, Dulyn, roedd cadetiaid o ysgol hyfforddi’r Lluoedd Diogelwch o bob tu i’r arlywydd.

Fe gafwyd gweddïai cyn y daeth y Taoiseach dros dro, Enda Kenny, i wahodd yr arlywydd i osod y dorch ” ar ran pobol Iwerddon ac i gofio’n anrhydeddus am yr holl bobol fu farw”.

Yna, wedi munud o dawelwch, fe seiniodd un pibydd o fand Rhif 1 y fyddin y dôn, ‘Wrap The Green Flag Around Me Boys’, cyn i’r corn seinio’r Caniad Olaf.

Fe gafodd baner trilliw Iwerddon, a fu ar hanner mast trwy gydol y seremoni, ei chodi wedyn i ben y mast.