Anafiadau Darren Pidgeon (Llun: PA)
Mae dau berson wedi eu carcharu am gyfanswm o 25 mlynedd am ymosod ar ddyn gydag asid, a hynny heb reswm.

Cafodd Darren Pidgeon, 29, ei losgi’n ddifrifol a bu’n rhaid iddo dreulio 24 diwrnod yn yr ysbyty yn dilyn yr ymosodiad.

Gwadodd Ashley Russell, 30, o Basildon, yn ne ddwyrain Lloegr a Christina Storey, 32 o Rayleigh, eu bod wedi chwistrellu asid gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Ond cafwyd y ddau yn euog yn Llys y Goron Basildon heddiw yn dilyn achos wyth diwrnod o hyd.

Mae Ashley Russell wedi cael ei garcharu am 17 mlynedd, tra bod Christina Storey yn wynebu wyth mlynedd dan glo.

Blocio car y dioddefwr

Yn ôl yr erlyniad, roedd y ddau wedi ymosod ar Darren Pidgeon am tua 11:20 y nos ar 3 Mehefin 2014.

Y gred yw ei fod wedi cael ei gau i mewn, wrth yrru yn Essex, gan gerbyd Rover coch oedd yn cael ei yrru gan Christina Storey.

Dywedodd yr erlyniad wrth y llys fod “teithwyr y car coch wedi dod allan o ddrws y teithiwr ac wedi rhedeg at ddrws car Mr Pidgeon, a oedd â’i ffenest ar agor”.

Fe wnaeth Ashley Russell chwistrellu ei wyneb â’r asid a’i fwrw, ac fe gafodd yr heddlu eu galw gan drigolion lleol am tua 11:22 y nos.