Mae ymchwiliad yr heddlu i honiadau hanesyddol ynglŷn â grŵp o bedoffiliaid yn San Steffan wedi dod i ben.

Roedd yr ymchwiliad dadleuol gan yr Heddlu Metropolitan, Operation Midland, wedi cael ei lansio ym mis Tachwedd 2014 ar ôl honiadau bod bechgyn wedi cael eu cam-drin yn rhywiol gan grŵp o ffigurau amlwg ym mywyd cyhoeddus mwy na 30 mlynedd yn ôl.

Roedd wedi costio £1.8 miliwn hyd at fis Tachwedd 2015 ac ni chafodd unrhyw un eu harestio. Cafodd cyrchoedd eu cynnal ar nifer o dai gan gynnwys cartrefi’r Arglwydd Bramall, sy’n 92 oed, a’r diweddar Arglwydd Brittan.

Cafodd y cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol, Harvey Proctor, ei holi ddwywaith ond mae bellach wedi clywed na fydd yn wynebu unrhyw gamau pellach. Roedd wedi gwadu unrhyw gysylltiad â’r mater.

Roedd y cyn-Brif Weinidog, y diweddar Edward Heath, hefyd wedi cael ei gysylltu gyda’r ymchwiliad.

Mae Scotland Yard wedi amddiffyn ei benderfyniad i gynnal yr ymchwiliad gan ddweud ei fod yn “hollol gywir ein bod wedi asesu’n ofalus yr holl honiadau a wnaed.”