Mae pedwar o bobol wedi’u harestio gan dditectifs yn cynnal ymchwiliad i dwyll honedig yn y sefydliad sy’n cynrychioli plismyn llawr gwlad.
Mae dau ddyn yn eu 50au, a dau ddyn yn eu 40au, wedi’r dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o dwyll, wedi i Ffederasiwn yr Heddlu Cymru a Lloegr godi ambell gwestiwn gyda Heddlu Surrey ddydd Mawrth yr wythnos hon.
Mae Heddlu Surrey wedi cadarnhau fod cyhuddiad ffurfiol wedi’i wneud ddydd Mercher ynglyn â chadw cofnodion Pwyllgor Canolog Ffederasiwn y Cwnstabliaid.
Mae’r cyhuddiad, meddai Heddlu Surrey, yn “ymwneud â phryderon am y modd y cafodd tua £1m ei drosglwyddo o gyfri’ elusennol ym mis Awst 2015”.