David Cameron
Fe fydd gweithwyr sydd ar gyflogau isel ac sy’n cynilo swm penodol fel rhan o gynllun newydd yn cael bonws o hyd at £1,200, cyhoeddodd David Cameron.

Fe fydd y cynllun ar gael i filiynau o weithwyr, sy’n derbyn budd-daliadau fel credydau treth a Chredyd Cynhwysol, o fewn dwy flynedd.

Mae 500,000 o weithwyr ifainc yn cael codiad cyflog o tua £450 ar gyfartaledd yn sgil newidiadau i’r isafswm cyflog fel rhan o fesurau i hybu cyfleoedd i’r gweithwyr tlotaf.

Yn ogystal fe fydd 25,000 o bobl ifanc yn eu harddegau yn cael cymorth drwy ymgyrch mentora cenedlaethol.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod am roi “cymorth ychwanegol i bobl sy’n gweithio’n galed er mwyn cyflawni eu potensial.”

“Dyna beth fydd y mesurau newydd yma yn eu cyflawni – helpu pobl i ddechrau cynilo arian i’w helpu drwy gyfnodau anodd, rhoi codiad cyflog i bobl ar gyflogau isel a gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael y profiad a’r rhwydweithiau i lwyddo.”

Ond mae llefarydd gwaith a phensiynau’r wrthblaid, Owen Smith, wedi wfftio’r cynllun cynilo gan ddweud y bydd toriadau i fudd-daliadau yn golygu y bydd teuluoedd yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn hytrach na bod ganddyn nhw arian i’w roi o’r neilltu.

“Mae hyn gyfystyr a dwyn car rhywun a chynnig lifft iddyn nhw i’r arosfan bws,” meddai.