Fe allai cap gael ei osod ar brisiau nwy a thrydan i bedwar miliwn o gartrefi yng Nghymru sydd yn talu o flaen llaw ar eu mesurydd,  o dan gynlluniau newydd.

Byddai’n rhaid i ddarparwyr ynni hefyd agor eu bas data o gwsmeriaid i Ofgem, er mwyn gadael i gwmnïau eraill gynnig cynigion gwell i’r rheiny oedd ar dariff cyfradd amrywiol.

Maen nhw’n rhan o becyn o ddiwygiadau sydd wedi cael ei amlinellu heddiw gan gorff rheoleiddio’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.

Y nod yw ailstrwythuro’r farchnad ynni er mwyn cynyddu’r gystadleuaeth rhwng cwmnïau a sicrhau bod cwsmeriaid yn cael bargen well.

Ac fe allai’r newidiadau sydd wedi cael eu cynnig olygu gostyngiad ym miliau rhai o’r cartrefi sydd a’r incwm isaf.