George Martin, dde, gyda Ringo Starr, Paul Mccartney a George Harrison
Mae’r dyn oedd yn cael ei adnabod fel y ‘pumed Beatle’, Syr George Martin wedi marw’n 90 oed.

Daeth cadarnhad o’r newyddion gan gyn-ddrymiwr y band, Ringo Starr ar ei dudalen Twitter.

Dywedodd ei reolwr, Adam Sharp, ei fod wedi marw’n dawel yn ei gartref.

Yn rhinwedd ei waith fel pennaeth cwmni recordiau Parlophone, roedd Martin yn gyfrifol am ddod â’r band o Lerpwl i amlygrwydd byd-eang ar ôl iddo glywed tâp o’u cerddoriaeth yn 1962.

Fe astudiodd yn y Guildhall School of Music ac roedd yn gerddor cyn troi at y diwydiant recordio.

Yn ystod ei yrfa, enillodd ddwy wobr Ivor Novello a chwe Grammy, ac fe gafodd wobr arbennig gan Grammy yn 2008 am ei arweiniad yn y byd cerddoriaeth.

Cafodd ei enwebu ar gyfer gwobr Academy yn 1965 am ei gyfraniad i’r ffilm ‘A Hard Day’s Night’, ac yn 1984, fe enillodd wobr Brit am ei gyfraniad i’r byd cerddoriaeth, a hynny’n dilyn ei wobr am y cynhyrchydd gorau yn 1977.

Yn 2012, cafodd rhaglen ddogfen yn olrhain ei fywyd ei darlledu gan y BBC. Roedd hefyd wedi gweithio gyda Shirley Bassey a Cilla Black.

Roedd yn weithgar yn y byd cerddoriaeth hyd y diwedd, ac mae ei fab Giles hefyd yn gynhyrchydd yn y stiwdios byd-enwog yn Abbey Road.

Mae teyrngedau lu wedi’u rhoi i Syr George Martin, gan gynnwys y rheiny gan fab John Lennon, Sean Ono Lennon, a Phrif Weinidog Prydain, David Cameron a’i ddisgrifiodd fel “cawr y byd cerddoriaeth.”