Mae ysgolion wedi cau a theithiau awyrennau wedi gorfod cael eu hoedi wrth i deithwyr wynebu amodau gyrru peryglus yn dilyn eira trwm neithiwr yng ngogledd Lloegr.
Mesurwyd 10cm o eira ar ucheldir yno ac mae degau o ysgolion wedi cau yn Oldham, Manceinion, a Leeds.
Bu’n rhaid i i Faes Awyr Leeds Bradford gau oherwydd yr eira wrth i’r eira gael ei sgubo oddi ar y llain lanio.
Ac mae’r eira yn achosi “tipyn bach o oedi i awyrennau’n hedfan” yn ôl llefarydd Maes Awyr Manceinion.